Plaid Cymru

Oddi ar Celwyddoniadur
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 00:53, 2 Mawrth 2008 gan Siôn Blewyn Coch (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Jump to navigation Jump to search

Plaid wleiddyol o ryw fath yw Plaid Cymru. Mae aelodau'r Blaid yn aml yn pwysleisio ei bod yn hollol wahanol i'r pleidiau Prydeinig. Mae hyn yn sicr yn wir; tra bod y pleidiau eraill yn hoffi gwneud yn fawr o'u llwyddiannau ac achub ar bob cyfle i wneud gwahaniaeth, gan gynyddu eu hymdrechion a'u grym gyda'r blynyddoedd, strategaeth Plaid Cymru yw gwneud i'r gwrthwyneb: ei hymateb i bob llwyddiant yw cuddio mwyfwy i'r cysgodion, ac mae pob cyfle i wneud gwahaniaeth yn cael ei drawsnewid yn gyfle i wneud cyn lleied â phosibl, fel y gwelir yn Llywodraeth y Cynulliad ar hyn o bryd.

Mae enw'r Blaid yn cyd-redeg â'r strategaeth hon. Pan ffurfiwyd y Blaid yn 1925, ei henw oedd Plaid Genedlaethol Cymru. Am flynyddoedd lawer, bu'r Blaid yn driw i'r nod creiddiol, sef bod yn gwbl amhoblogaidd. Wrth i genedlaetholdeb ddechrau magu momentwm yng Nghymru, penderfynwyd bod enw'r blaid yn rhy genedlaetholgar a bod perygl y byddai'n dod yn blaid boblogaidd, felly newidiwyd yr enw i Plaid Cymru. Ar ôl dyfodiad y Cynulliad, daeth mwy a mwy o bobl i weld Cymru fel uned wleidyddol ac i gefnogi mwy o rym i Gymru fel gwlad; ymateb Plaid Cymru felly oedd tynnu'r Cymru o'i henw, gan ddefnyddio, yn hytrach, yr enw Plaid, sy'n cyfleu yn fwy cywir yn union beth y mae Plaid yn sefyll drosto, sef hi ei hun.

Disgwylir y bydd "Plaid" yn gollwng y gair plaid o'i henw cyn bo hir, gan fynd am enw mwy addas, sef ________.