Ysgol Gyfun Glantaf
Oddi ar Celwyddoniadur
Mae gan Ysgol Gyfun Glantaf hanes tra diddorol (os ydych yn gyfryngi, yn gyn-ddisgybl neu'n gweithio i'r BBC). Yn wreiddiol cael eu defnyddio fel stiwdios oedd yr adeiladau cyn cael eu newid yn ddiweddarach ar gyfer dysgu.Cynnwys |
[golygu] Y Blynyddoedd Cynnar
Agorodd Stiwdios Glantaf ei drysau am y tro cyntaf ym 1971. Yn dilyn dwy flynedd lwyddiannus o gynyrchiadau, cafodd Stiwdios Glantaf y fraint o fod yn gartref parhaol ar gyfer opera sebon newydd gan y BBC, Pobol y Cwm. Ym 1974 dechreuwyd ffilmio ar gyfer y gyfres gyntaf.
Ar y dechrau, pentref tawel ydoedd Cwmderi. Tueddai'r straeon ganolbwyntio ar gartre'r henoed Bryn Awelon a'r dafarn leol, Y Deri Arms. Wrth i boblogrwydd yr opera sebon gynyddu, cynyddodd y criw a'r cast. Erbyn 1977 roedd cymaint o'r cast a'r chriw â phlant, bu'n rhaid i'r Bîb drefnu meithrinfa i'w gwarchod tra roedd y rhieni'n gweithio.
[golygu] Dyddiau Diweddarach
Erbyn 1978 roedd y feithrinfa wedi dechrau tyfu'n fwy na'r stiwdios, ac roedd rhaid i'r cynhyrchwyr ganfod cartref newydd er mwyn parhau i ffilmio'r opera sebon. Trefnwyd cael athrawon i ddod mewn i roi gwersi i'r plant ifanc - dyma oedd man geni Ysgol Glantaf.
Bu'n rhaid i ffilmio Pobol y Cwm symud i gartref newydd. Cafodd ei wasgu mewn i stiwdios y BBC oedd wedi ei leoli rownd y gornel o Stiwdios/Ysgol Glantaf.
Tyfodd yr ysgol i fod yn un hynod lwyddiannus ac mae'n adnabyddus trwy Gymru am feithrin doniau a sêr byd enwog. Erbyn 1998 roedd cymaint o ddisgyblion dawnus yng Nghaerdydd, y bu'n rhaid agor ysgol arall, Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr.
[golygu] Yr iaith
Un o'r pethau amlycaf am Ysgol Glantaf yw'r dafodiaith a siaredir yn yr ysgol. Mae'n acen unigryw na chlywir mo'i bath yn unman (ar wahân i yn yr ysgol, ac ar y teledu/radio). Pan fyddwch yn ddigon ffodus i glywed gair o Gymraeg yn yr Ysgol, prin y byddwch yn ei ddeall. Mae disgyblion yr ysgol wedi llwyddo i blethu acen Ciadiff mewn gyda acen gog eu rhieni (sydd wedi dod lawr i'r de (fel llawer o gogs eraill) i weithio i'r BBC - tafodiaith ansoniarus, a dweud y lleiaf.
Er hyn, mae disgyblion yr ysgol ymhlith y parchusaf yng Nghaerdydd. Ond peidiwch a'u croesi neu efallai mai chi fydd yn destun sbort yn Nghwmderi yr wythnos nesaf.
[golygu] Arwyddair yr ysgol
Arwyddair yr ysgol yw Ma’ Dadi fi yn gweithio i'r Bi Bi Si.
[golygu] Gefeill-ysgol
Ei gefaill-ysgol yw ysgol arall sydd wedi derbyn canmoliaeth uchel am ei gwasanaeth i Gymru, Ysgol Glanaethwy.
[golygu] Enwogion o'r Ysgol
Ymhlith yr enwogion a fagwyd yng Nglantaf mae:
- Ioan Gruffudd (Y boi 'is there anybody out there?' ar Titanic)
- Matthew Rhys (Sidekick Ioan)
- Branwen Gwyn (honna nath ddechre off ar planed plant, cyn symud ymlaen at raglenni amgenach)
- Stephen Sbielberg (Gwneuthurwr ffilm byd enwog sydd wedi anghofio ei wreiddiau, o ddewis)
- Matthew Pritchard (un o'r nytyrs off Dirty Sanchez)
- Gethin Jones (Y boi sydd wedi symud ymlaen i fyd gwell)