William Morgan

Oddi ar Celwyddoniadur
Neidio i: llywio, chwilio

William Morgan (1545 - 10 Medi 1604) oedd un o'r llenorion pwysicaf welodd Cymru erioed. Mae rhai o'i weithiau ymhlith goreuon yr iaith Gymraeg.

Y Blynyddoedd Cynnar[golygu]

Plentyndod ddigon cythryblus a gafodd William Morgan. Treuliodd ddeg mlynedd cyntaf ei fywyd ar y môr gyda'i dad, cyn dianc ar ei benblwydd yn un ar ddeg i weithio ar y tir. Treuliodd flynyddoedd cynnar ei fywyd yn ymladd ac yn lladrata gyda'i dad, Harri Morgan. Credir mai putain oedd ei fam, Mary Elizabeth, a gwrddodd ei dad mewn porthladd ym Marbados.

Ar ôl dianc i'r tir bu'n ddigon ffodus i gael gwaith fel gwas ar fferm gyfagos. Wedi cwta dair blynedd daeth i'r amlwg nad ffarmwr y dylai fod. Treuliai ei ddyddiau yn ceisio cadw ei braidd dan reolaeth. Pan dderbyniodd sawl aelod o'i braidd Orchymyn Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (ASBO) cafodd William Morgan ei ddiswyddo a bu'n rhaid iddo fynd i chwilio am waith yn rhywle arall.

Bywyd Prifysgol[golygu]

Mae'n aneglur i ble'r aeth William ar ôl hyn, ond ymddengys iddo dderbyn addysg gan dirfeddiannwr lleol, Morys Wyn, cyn mynd yn ei flaen i astudio yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt. Treuliodd dair blynedd ar ddeg yn y brifysgol lle y meistrolodd nifer o ieithoedd ynghyd â smyglo cyffuriau a thwyll.

Tra oedd yn fyfyriwr yng Nghaergrawnt, daeth i gwrdd â'i brif elyn, William Salesbury. Roedd y ddau yn aelodau o'r Cymdeithasau Cymraeg yng Nghaergrawnt a Rhydychen, ac yn cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn Eisteddfodau blynyddol. Yn ôl y sôn, enillodd Salesbury y wobr gyntaf mewn cystadleuaeth nofel fer gyda'i nofel 'Erasmus' yn Eisteddfod Ryng-golegol 1567, a Morgan yn dod yn ail.

Mae llechen er cof iddo yng Ngholeg San Ioan, Caergrawnt. Er gwaetha'r si anwybodus ymysg rhai o fyfyrwyr y Coleg, nid yw fuck off english pigs yn gyfieithiad cywir y dyfyniad beiblaidd a geir arno.

Ar ôl Prifysgol[golygu]

Ar ôl gadael y coleg ac wedi ei greithio gan Eisteddfod '67, penderfynodd William Morgan fynd ati i geisio bod yn llwyddiannus gan gyhoeddi darn o waith. Penderfynodd ddefnyddio nofel lwyddiannus Salesbury fel sylfaen i'w waith. Aeth ati i olygu ac ychwanegu'n helaeth at nofel Salesbury, ac erbyn 1588 roedd un o nofelau pwysicaf yr iaith wedi ei chyhoeddi - 'Y Beibl'.

Er mor ddi-ddychymyg oedd y teitl, llwyddodd y nofel i gyrraedd rhif 1 yn rhestr Llyfr y Flwyddyn y Byd.

Defaid[golygu]

Yn ei amser hamdden, byddai William Morgan yn cadw defaid. Cofir hyn o hyd yn y cân o ardal Bethesda, "Defaid William Morgan," ar ôl iddo ymweld â'r ardal (ac yn wir, ei chythryblu) gyda'i braidd ym 1569. Mae'r geiriau a glywir yn aml heddiw yn deillio o'r record poblogaidd, ond rhain mo'r geiriau gwreiddiol gan iddynt cael eu parchuso yn sylweddol, gan dynnu sawl pennill oedd yn manylu'n frawychus ddelweddol ar ei berthynas gyda'i braidd, er mwyn iddo gael ei dderbyn gan y BBC.