Sgwrs Defnyddiwr:Boring

Oddi ar Celwyddoniadur
Neidio i: llywio, chwilio
Shwmae, Boring! Croeso mawr i Celwyddoniadur — y gwyddoniadur gwael. Welcome message in English
Diolch am ymuno â Celwyddoniadur ac am eich cyfraniadau diweddaraf — fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma.
Prosiect amlieithog i greu gwyddoniadur rhydd o ffeithiau yw Celwyddoniadur. Fe sefydlwyd y fersiwn gwreiddiol yn Saesneg yn 2005, a'r fersiwn Cymraeg yn 2008, a bellach mae 103 erthygl gennym. Rhowch gynnig ar y dolenni defnyddiol isod, a dysgu sut allwch chi olygu unrhyw erthygl o ganlyniad. A chofiwch — dyfal donc a dyr y garreg.
Cymorth
Cymorth ynglŷn â defnyddio Celwyddoniadur.
Porth y Gymuned
Gwelwch beth sy'n mynd ymlaen a beth
sydd angen gwneud yma.
Polisïau a Chanllawiau
Rheolau a safonau a dderbynnir gan y gymuned.

Dyma eich tudalen sgwrs lle gallwch dderbyn negeseuon gan Celwyddoniadurwyr eraill. I adael neges i Celwyddoniadurwr arall, dylech ysgrifennu ar dudalen sgwrs y defnyddiwr gan glicio ar y cysylltiad iddi, ac wedyn clicio ar y tab "sgwrs".

Ar ddiwedd y neges mewn tudalennau sgwrs (fel yr un yma), gadewch ~~~~, a bydd y cod yma yn gadael stamp eich enw ac amser gadael y neges. Os ydych am gael cymorth gan weinyddwyr, edrychwch ar y rhestr ohonynt.

Fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma,
Y Celwyddoniadur Cymraeg


Cofion cynnes, Llwy ar lawren:be:la:logimalpedie:illogicopedia:ga:sco: 06:54, 28 Gorffennaf 2013 (UTC)

Google Cyfieithu[golygu]

Diolch am dy gyfraniadau - ond mae'r erthygl hon yn enghraifft o beth sy'n digwydd pan rwyt ti'n cyfieithu rhywbeth gyda Google, a dw i ddim yn credu bod y 'cyfieithiadau' rwyt ti wedi ychwanegu yn gwella'r erthygl achos nad eu bod yn realistig ac maen nhw'n ceisio gwneud pwyntiau am 'dy din' a 'Rwsia Sofietaidd'. Gall y pethau 'na bod yn ddoniol ond yn yr achos 'ma maen nhw'n mynd yn erbyn pwrpas yr erthygl. Wnei di beidio ag ychwanegu pethau fel rheina at Google Cyfieithu? Gelli di wneud erthygl wahanol am yr un pwnc os wyt ti eisiau.

Hefyd, diolch am dy erthyglau ond ... maen nhw'n egin ar hyn o bryd, ac efallai nad oes neb sy'n mynd i'w datblygu i ti. Yn aml rydyn ni'n ysgrifennu erthygl yn gyntaf yn lle gwneud cais am rywun arall ei hysgrifennu. Llwy ar lawren:be:la:logimalpedie:illogicopedia:ga:sco: 14:39, 28 Gorffennaf 2013 (UTC)