S4C
Oddi ar Celwyddoniadur
Sianel deledu Cymraeg yw S4/C . Mae'r sianel yn boblogaidd ymysg Cymry, ond un o brif cwynion gwylwyr yw fod rhaglenni ddim yn cael eu ail ddarlledu digon, mae llawer yn annog S4/C i greu sianel +1 rhagofn iddynt fethu eu hoff raglen, gan fod y siawns o ailddarllediad yn isel!
Mae'r rhan fwyaf o Gymry a dysgwyr tramor ar hyn o bryd yn hynod falch am y ffaith nad yw'r un o raglenni S4/C ar gael iddyn nhw ers haf 2008, serch y ffaith i holl arlwy arlein y sianel yn cael ei hyrddio i lawr cornau gwddf eu rhaglenni RealPlayer am flynyddoedd gynt. Roedd hyn yn waeth na thaflenni dwyieithog yng Ngwent i'r rhan fwyaf.
Eto mae carfan 'breakaway' o fasocistiaid telegyfathrebol wrthi'n erfyn ar S4C i'w galluogi i fwynhau unwaith eto eu pleserau anfoesol o wylio Cefn Gwlad a'r Tŷ Cymreig yn nhywyllwch ogofâu Asia. Dywed S4/C, yn syml, "i grafu".