Owain Glyndŵr

Oddi ar Celwyddoniadur
Neidio i: llywio, chwilio
Llun enwog A.C. Michael yn dangos Owain yn arwain ei fyddin i'r gad

Owain Glyndŵr (1354-c.1416) - tywysog, gŵr busnes llewyrchus ac entrepreneur heb ei ail.

Ganed ef i deulu cefnog yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Astudiodd y gyfraith yn Llundain, cyn symud yn ôl i Gymru i ddechrau busnes teuluol. Sefydlodd ei gwmni gwneud matsys - Fflam Glyndŵr - yn nhref Machynlleth, ac mae adeilad y ffatri yn dal i sefyll heddiw.

Tyfodd y cwmni dros y degawd cyntaf ac erbyn 1368 roedd Fflam Glyndŵr yn darparu matsys i dros 20 o siopau lleol. Yn anffodus ni barodd llwyddiant y cwmni yn hir wedi hyn.

Llosgwyd nifer o dai ha' ddiwedd y 1370au a derbyniodd y cwmni lawer o gyhoeddusrwydd negatif yn y wasg. Mae'n debyg fod y llosgwyr yn defnyddio matsys cwmni Fflam Glyndŵr a mabwysiadodd y wasg y llosgwyr gyda'r enw 'Meibion Glyndŵr'.

Er na chafodd neb eu herlyn am y llosgi, mae rhai'n awgrymu mai Glyndŵr ei hun oedd yn gyfrifol am yr ymgyrch fel ymgais i geisio cynyddu gwerthiannau ei fatsys. Mae eraill yn awgrymu mai ei gymydog a'i frawd, Bryn (ap Gruffudd) Fychan oedd yn gyfrifol. Arestiwyd ef, ond cafodd ei ryddhau ar fechniaeth.

Ni welwyd Owain Glyndŵr ar ôl yr ymgyrch hon. Bu'n rhaid iddo fynd ar ffo wedi i'w frawd Bryn Fychan ysgrifennu cerdd hynod awgrymus am ran Owain yn yr ymgyrch - Meibion y Fflam - gyda'r linnell enwog "Mae Owain yn rhywle'n gwybod..."

Mae Owain Glyndwr yn dod o Glyndwr.