Oman

Oddi ar Celwyddoniadur
Neidio i: llywio, chwilio

Oman.svg

Gwlad yw Oman sydd ag enw da ar gyfer gwneud pyns.

Geirdarddiad[golygu]

Galwyd y wlad yn Oman am y tro cyntaf yn y flwyddyn 0 gan dri gŵr doeth o'r dwyrain a oedd yn tripio ar asid ac yn honni eu bod yn dilyn seren. Yn yr ardal hon y bu iddyn nhw weld y seren, gan ebychu fel parti cydadrodd, "O, man, yli ar y seren 'na." Yn anffodus, nid oedd y bugail lleol yn rhy hapus i weld dynion mewn drag yn tripio ar ei dir, felly mynnodd eu bod yn mynd Oman reit sydyn. Aeth y gŵyr i ffwrdd am Nasareth, Galilea, gan ddod o hyd i faban mewn preseb (gweler Madeleine McCann). Daethant ar draws baban arall, Iesu Grist, ond erbyn hynny, roeddynt ar y cymdown wedi'r asid, ac methu dweud llawer mwy nag "Arrr", "Thhhhhs" a "Mrrrrrr". Wedi sobri, ni aethant yn ôl i Oman, fel ysgrifenodd Melchiot yn ei hunangofiant, Trip Gŵr Doeth, "Oman ni am fynd nôl, ond Oman ni'n meddwl i fod o'n ormod o daith. Collodd Balthasar ei goesa' tra'n tripio 'fyd - felly Oman chance camel mewn Grand National i ni gyrradd."

Daffy.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu Celwyddoniadur drwy ei datblygu.