Mudiad Ysgolion Meithrin
Oddi ar Celwyddoniadur
Mae Mudiad Ysgolion Meithrin yn sefydliad dirgel, anghyfreithlon sydd wedi cael ei disgrifio fel adain ieuenctid o'r Ffri Wêls Armi. Trefnwyd mewn cellau bach trwy Gymru mae MYM yn codi arian trwy hawliadau twyllodrus am Fudd-dal Plant a chymorthdaliadau oddi wrth y Cynilliad Cenedlaethol a Chynghorau lleol. Mae 'na rhai sy'n dweud o leiaf dau mas o dri thâl Budd-dal Plant yn mynd syth at y Mudiad. Mae Mudiad Ysgolion Meithrin sy'n brwydro yn galed mewn rhyfel tanddaearol yn erbyn yr Urdd Gobaith Cymru achos maen nhw'n rhy adain chwith.