Marilyn Monroe
Oddi ar Celwyddoniadur
Roedd Norma Jeane Mortenson (1 Mehefin, 1926 - 5 Awst, 1962), yn actores eiconaidd, cantores a model, a anwyd yn Los Angeles, yn yr UDA.
Cofier hi'n bennaf yng Nghymru am ei pherthynasau tymhestlog gyda Saunders Lewis, yna gyda'r iddew enwog hwnnw o Bort Talbot, Albert Einstein, ac yna gyda'r dau. Credir fod cenfigen Lewis tuag at Einstein yn gyfrifol am ysbrydoli sawl darn o'r ddrama Siwan. Er hynny, roedd yn un o symbolau rhyw ac eiconau pop yr 20fed ganrif.
Yn ddiweddarach, fodd bynnag, llesteiriwyd ei gyrfa gan broblemau hir-dymor a siomedigaethau yn ei gyrfa actorol a'i bywyd personol. Bu farw mewn amgylchiadau amheus yn 1962, yn 35 oed.