Llyn Tegid

Oddi ar Celwyddoniadur
Neidio i: llywio, chwilio

Cronfa ddŵr fawr yw Llyn Tegid, a adeiladwyd tua 1781 drwy adeiladu argae ar draws Nant Tegid yng ngogledd Cymru. Mae'n gorwedd ar yr A494 rhwng Llanuwchllyn a Bala, Wa.

Llyn a Chwm Tegid heddiw hefo tre Bala yn edrych drosto fo
Bouncywikilogo.gif
I'r rhai sydd ag obsesiwn â chywirdeb a ffeithiau, mae erthygl gan y Wicipedwyr am Lyn Tegid.

Penderfyniad gŵr busnes o'r Bala oedd creu argae ar draws Cwm Tegid. Roedd busnes argraffu Thomas Charles yn mynd o nerth i nerth – cymaint nes y bu'n rhaid i'r cwmni symud o'i gartref presennol yn Stad Ddiwydiannol y Bala. Sylweddolodd Charles effeithlonrwydd dŵr er mwyn creu papur, ac felly penderfynodd adeiladu melin bapur newydd yn edrych lawr ar Gwm Tegid. Ar y pryd nid oedd y trigolion lleol yn deall pam fod Charles yn codi melin mor bell i ffwrdd o Nant Tegid.

Tua 1779 rhoddodd Thomas Charles gynnig ger bron Cyngor y Bala am fenter newydd a fyddai'n creu 20 o swyddi yn yr ardal, ar yr amod fod yn rhaid boddi Cwm Tegid er mwyn cael dŵr i bweru'r felin. Nid oedd hyn wrth fodd pawb ar y cyngor, ond daethpwyd i'r penderfyniad i'w foddi yn y diwedd gan mai dim ond un ffarm, ac hanner dwsin o dai oedd yno.

Cwm Tegid fel yr arferai fod. Gwelir Tegid Foel yn ffarmio yn y llun

Ymhen y flwyddyn bu’n rhaid i drigolion Gwm Tegid, gan gynnwys Tegid Foel, un o ffermwyr mwyaf llewyrchus yr ardal, adael eu bywoliaeth a’i cartrefi a symud i fyw i Bala.

Graffiti ar wal rhwng Bala a Dolgellau

Cyhoeddiad cyntaf y cwmni argraffu yn ei gartref newydd oedd y Beibl. Defnyddiodd Charles lwyddiant ei fusnes i ddechrau ysgol Sul leol, a chyn hir roedd wedi sefydlu ysgolion ledled Cymru. Penderfynodd mai un gwerslyfr fyddai’r plant eu hangen – ie, y Beibl. Gwerthodd hwnnw dros 1,000 o gopïau yn ei flwyddyn gyntaf. Credir fod ei P.A. wedi chwarae rhan allweddol gyda’r gwerthiant. Y posteri yn darlunio menyw dlws wedi’i gwisgo mewn siôl a sgert yn dal y Beibl, Mary Jones.

Bu boddi'r cwm yn destun sawl dadl a gwrthdystio gan drigolion lleol, ond ofer fu'r protestiadau. Er mor llwyddiannus fu’r busnes, ac ydyw’n dal i fod, mae dicter pobl Bala yn dal i fod tuag at y teulu Charles.

Yn dilyn marwolaeth Thomas Charles ym 1814, pasiwyd awenau’r cwmni ymlaen i’w frawd bach, y cyflwynydd radio Idris Charles. Er derbyn sawl llythyr o gwyn am weithredoedd ei frawd, gwrthod ymddiheuro a wnaeth y perchennog presennol.