Hela Cnau

Oddi ar Celwyddoniadur
Neidio i: llywio, chwilio
Y gneuen fach yn ceisio dianc rhag grafangau'r ci mawr cas
Er mor ddadleuol yw Hela Cnau i lawer, mae’r hobi hon yn dal i gael ei harfer ledled Cymru a thu hwnt. Mae tystiolaeth i awgrymu fod y weithgaredd hon yn dyddio yn ôl i gyfnod Glyndŵr yng Nghymru.

Y Cychwyn[golygu]

Er bod hela ceirw a llwynogod yn draddodiad llawer hŷn sylweddolwyd tua 1400 cymaint o bla ydoedd cnau yng nghefn gwlad Cymru a’r angen am reoli eu niferoedd. Cymeradwywyd deddf ym 1404 a oedd yn rhoi caniatâd i ffermwyr hela cnau.

Yn ôl rhai gwrthwynebwyr nid oedd y ddeddf hon yn ddigon llym. Roeddynt wedi gweld ffermwyr yn hela cnau mewn modd a oedd yn annheg ar y cnau. Yn aml ar helfeydd byddai cŵn yn cael eu defnyddio i erlid y cnau, gan eu blino, ac yn y diwedd yn eu rhwygo’n ddarnau am sbort.

Dadl y ffermwyr oedd mai greddf naturiol y ci oedd yr ymddygiad hwn. Roedd ffermwyr, mae’n debyg yn arfer defnyddio bwa a saeth er mwyn hela’r cnau: dull llawer iawn mwy hynaws o ladd y cnau, oherwydd prin fyddai’r boen y byddent yn ei deimlo.

Diwygio'r Ddeddf[golygu]

Ond, erbyn 1411 bu’n rhaid i Ddeddf Hela Cnau 1404 gael ei diwygio yn dilyn cwynion gan grwpiau protest yn erbyn hela creulon. Roedd y ddeddf newydd yn gwahardd ffermwyr rhag hela cnau gyda chnud o gŵn hela. Cred rhai fod hela cnau gyda chŵn yn dal i barhau heddiw yn anghyfreithlon.

Heddiw[golygu]

Mae hela cnau yn dal i fynd yn ei flaen hyd heddiw. Ond yn wahanol i ddyddiau cynnar yr arfer, caiff cnau eu hela heddiw am hwyl. Os ewch i gefn gwlad yn ystod y tymor hela, gellir gweld Cymry dosbarth uwch ar gefn eu ceffylau mawr yn mwynhau hela’r gneuen fach ddiniwed drwy gefn gwlad.

Er mor greulon y tybia rhai yw hela cnau am hwyl, ac er sawl protest y tu allan i San Steffan, parhau i fod yn gyfreithlon y mae.

Llenyddiaeth[golygu]

Ceir sawl cyfeiriad mewn llenyddiaeth Gymraeg at hela cnau ers dechrau’r weithgaredd, a heb os, un gyfeiriadaeth gofiadwy iawn yw honno o gerdd Dafydd ap Gwilym, Cnau: ‘Morfudd, sai moyn secs, ‘wy off i hela!

Gee ceffyl bach, yn cario ni'n dau,
Dros y mynydd i hela cnau,
Dŵr yn yr afon a'r cerrig yn slic,
Nofiodd y gneuen, a dianc – y pric!

A phwy all anghofio cerdd un o fawrion Cymru, cerdd ‘Y Gneuen’ gan R. Williams Parry, gyda’r ddwy linell anfarwol:

Llithrodd y gneuen fochgoch dros y grib;
Digwyddodd, darfu, megis seren wib.

Llyfryddiaeth Bellach[golygu]