Heddlu Gogledd Cymru

Oddi ar Celwyddoniadur
Neidio i: llywio, chwilio

Cwmni theatr croeswisgol hynod o lwyddianus sydd a'i bencadlys yn y Fflint, Awstralia, yw Heddlu Gogledd Cymru (HGC). Prif Gwnstabl presennol HGC yw Anne Robinson.

Roedd apwyntiad Anne i'r swydd gan ei gyfaill mynwesol Elisabeth II yn ddadleuol. Mor ddadleuol yn wir fel y bu rhaid i'r Americanwyr ymosod yn ddirybudd ar Wlad Belg mewn ymdrech aflwyddianus i atal y terfysgoedd dychrynllyd yn y Fflint. Un o'r gwrthwynebwyr ffyrnicaf oedd y cyn Brif Gwnstabl, Richard Brunstrom, ond cafodd ei dawelu yn ddiswta gan Anne Un Nos Ola Leuad pan gafodd ei fartsio ganddi i gefn y theatr a'i saethu. Damwain oedd hynny, wrth gwrs.

Dan arweinyddiaeth Anne mae HGC wedi dechrau taith o gwmpas Cymru, Lloegr a Llanrwst yn perfformio Annie Get Your Gun. Stori serch ramantus ydy hon, sy'n gorffen gyda golygfa drawiadol wrth i gast o gannoedd o actorion noethlymun gael eu chwipio ar eu gliniau gan yr arwr, sy'n cael ei bortreadu gan Gordon Brown, un o thespiaid enwocaf y theatr Brydeinig gyfoes.

Daffy.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu Celwyddoniadur drwy ei datblygu.