Guto Ffowc Elis
Awdur, cenedlaetholwr Cymreig a therfysgwr enwog oedd Guto Ffowc Elis (17 Tachwedd 1924 - 22 Ionawr 2004). Mae'n fwyaf enwog am Gynllwyn y Powdwr Gwn, sef cynllun aflwyddiannus i ffrwydro Senedd Lloegr ac adfer grym i Gymru, ond roedd hefyd yn weinidog, yn ddarlithydd, ac yn awdur. Yn y cyfnod cyn y cynllun i ffrwydro'r Senedd, bu Guto yn ymgeisydd seneddol dros Blaid Cymru; bu'n asiant dros Gwynfor Evans ar un adeg, ond aeth y ddau eu ffordd eu hunain pan aeth Gwynfor i lawr llwybr heddychiaeth, a Guto tua therfysg. Yn ystod ei oes, ystyrid Guto Ffowc Elis fel un o awduron mwyaf blaenllaw Cymru. Fodd bynnag, dyfarnwyd Pysgod y Cryman yn nofel waetha'r ganrif gan Gyngor Llyfrau Cymru yn y flwyddyn 2000. Ers hynny, cynhelir seremoni flynyddol lle caiff model o Guto ei losgi ar goelcerth.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Pysgod y Cryman (1953)
- Nôl i Lle Ifor (1956)
- Wythnos o Ddolur Rhydd (1957)
- Y Blaned Wirion (1968)