Ffred Ffransis

Oddi ar Celwyddoniadur
Neidio i: llywio, chwilio

Ymgyrchydd blaenllaw dros gyfiawnder cymdeithasol yw Ffrederick Seffton Ffransis a chanddo ymroddiad diymwad dros sicrhau dyfodol i’r Gymraeg yn Nhywysogaeth Cymru. Ganed ef ym Mae Colwyn ar y 14eg o Fehefin 1928 a’i fagu yn ‘Smutty Rhyl’ ar bwys Lerpwl.

Bu ei deulu ar ochr ei dad yn berchen ar diroedd lawer yn ninas Lerpwl gerllaw, ac yn goron ar y cwbl - 'Sefton Park' - ar gyrion y ddinas. Daeth trobwynt yn ei hanes pan wnaeth Corfforaeth Lerpwl gais i foddi Cwm Tryweryn yng nghefn gwlad Sir Feirionnydd er mwyn cael cyflenwad o ddŵr i helpu’r Ffransisiaid i ddyfrhau’r parc a chadw’r gwyrddni a fu i’r oesoedd a ddêl. Perodd hyn gryn anesmwythyd i Ffred Ffransis ac ymgysegrodd ei fywyd o hynny ymlaen i frwydro dros gymunedau’r Gymraeg er mwyn talu'r pwyth yn ôl am y gamwedd hon. Bu iddo werthu’r parc a ddaeth yn etifeddiaeth iddo i Syr Paul McCartney, a rhoi’r arian i Glwb Pêl-droed y Rhyl yn y gobaith ffôl y buasent ryw ddiwrnod yn hemo timau Lerpwl ac Everton yn y prif gynghrair.

Gellir olrhain ei achau ar ochr ei fam yn ôl i ‘St Francis the Sissy’, ac yn debyg i’r gwron hwnnw, cred Ffred Ffransis bod dyletswydd arnom i ddod â chyfiawnder a heddwch i’n byd ac i roi terfyn ar ryfel a gorthrwm trwy esiampl bersonol. Bu iddo aberthu ei ryddid lawer tro dros ei egwyddorion – yng ngharchardai Walton, Pentonville, Abertawe, Robben Island, Stalag Luft III a charchar Slade lle bu’n rhannu cell gyda Norman Stanley Fletcher. Ni fedr neb anghofio ei eiriau gwefreiddiol wrth annerch y wasg ryngwladol wrth iddo gael ei ryddhau o garchar Pentonville ar ddechrau’r saithdegau:

Where there is hatred, let me sow love; where there is injury, pardon; where there is love, faith; where there is despair, hope; where there is darkness, light; where there is sadness, joy. Now let’s get the fuck out of here. (ffynhonnell Reuter)

Er mwyn parhau a’i waith gwirfoddol dros gyfiawnder a thegwch i’r iaith Gymraeg, sefydlodd Cwmni Seffton ym 1963 a fuasai’n ei alluogi i frwydro dros yr iaith a chynnal teulu. Bwriadai gyflogi gweithwyr o blith aelodau gweithgar Cymdeithas yr Iaith fel y caent ryddid i weithredu yn enw’r iaith, ond yn anffodus, fe aeth y syniad i’r pedwar gwynt ar ddechrau’r nawdegau, a chanolbwyntiodd ar helpu hoywon ac anffodusion eraill na fuasai’r un cyflogwr arall yn meddwl rhoi gwaith iddynt. Adwaenir y cwmni heddiw fel ‘Cwmni Seffton a’i Fab’ wedi i un o’i feibion rannu’r faich gynyddol o redeg y cwmni.

Mae’n briod â Meinir Ffransis, merch i Primrose ac Harold Shipman ac mae ganddo saith o blant naturiol - Liesl, Louisa, Friedrich, Kurt, Brigitta, Marta a Gretl – a bu iddynt fabwysiadu tri o blant amddifad o Burkino Faso – Hedd Gwynfor, Ceri Wyn a Leonardo DiCrapio. Mae’r plant naturiol – ill saith yn canu o eisteddfod i eisteddfod fel y Ffransisiaid. Mae Hedd yn helpu rhedeg y cwmni tra’n cynnal ac hyrwyddo’r wefan maes e - fforwm drafod i blant a gormod o ddim byd i’w wneud â’u bywydau; mae Ceri yn uwch-liwtenant yn Lleng Dramor Ffrainc ac mae Leonardo wedi dwyn gwarth ar enw’r teulu wrth iddo serennu fel Jack Dawkins yn y ‘blockbuster’ porno ‘Tit ‘n Dick’ o stiwdios Metro Goldwyn Mayer.

Dathlwyd pen-blwydd Ffred Ffransis yn bedair ugain oed mewn cyngerdd arbennig i ddathlu ei fywyd yng nghlwb pêl-droed Aberystwyth ar y 14eg o Fehefin 2008. Daeth ffrindiau a theulu o bedwar ban Dyffryn Teifi i’r achlysur hon a chafwyd perfformiad llawn asbri gan ei hoff grŵp Abba - a ailffurffiodd yn arbennig i ganu teyrnged i’r dyn arbennig hwn. Aethant ati i ganu ei hoff gân – Money, Money, Money – i sŵn byddarol cymeradwyaeth y gynulleidfa a phlesur amlwg Mr Ffrederick Seffton Ffransis.