Cymraeg

Oddi ar Celwyddoniadur
Neidio i: llywio, chwilio
Bouncywikilogo.gif
I'r rhai sydd ag obsesiwn â chywirdeb a ffeithiau, mae erthygl gan y Wicipedwyr am Gymraeg.

Iaith a ddyfeisiwyd tua tri chan mlynedd yn ôl yw'r Gymraeg.

Cynnwys

[golygu] Creu'r iaith

Roedd gorllewin Prydain (a elwir yn "Cymru" erbyn hyn) yn ardal o dlodi a diffeithwch, ac wrth feddwl am ffyrdd o wella'r sefyllfa fe gafodd dyn o'r enw Griffith Jones, Llanddowror syniad twyllodrus ond athrylithgar, sef creu myth am wlad ac iaith a oedd wedi cael ei gormesu gan y Saeson, sef Cymru, a'r Gymraeg. Aeth ati i droi'r myth yn realiti drwy Ysgolion Cylchynol Griffith Jones sef teithio o bentref i bentref yn dysgu "Cymraeg" i'r bobl gan ddweud wrthynt mai hon oedd iaith y nefoedd, rhywbeth yr oeddent yn ddigon dwl i'w gredu. O ganlyniad penderfynwyd siarad yr iaith honno a'r iaith honno yn unig gyda'u plant, i'r fath raddau nes iddynt anghofio Saesneg yn gyfan gwbl.

Roedd Griffith Jones Llanddowror yn ddyn o flaen ei oes, ac ni chafodd ei werthfawrogi ar y pryd. Fodd bynnag, roedd yn meddwl yn yr hirdymor, a dim ond yn ystod yr hanner canrif diwethaf y mae ei gynllun mawr wedi dechrau dwyn ffrwyth mewn gwirionedd. Bratiaith a ddyfeisiodd ar gefn amlen gyda chymorth ei bartner oes Iolo Morganwg oedd yr iaith yn wreiddiol, ond erbyn hyn mae'r Gymraeg yn ddoniol ffynnu.

[golygu] Dwyn ffrwyth

Mae naïfrwydd ein cyndadau i gredu Griffith Jones mai'r Gymraeg oedd iaith y nefoedd wedi talu ar ei ganfed i ni, eu disgynyddion, erbyn hyn. Mae'r "iaith" wedi sicrhau llwyth o swyddi da i bobl anghymwys a fyddai'n ymdrechu yn McDonalds oni bai am gwestiwn yr iaith. Drwy gyfres o "brotestiadau" yn ystod y chwedegau a'r saithdegau, llwyddodd y bobl hyn, sy'n galw eu hunain yn blant y chwyldro, i greu cyfleoedd o bob math i'w gilydd. Drwy alw am ysgolion Cymraeg, radio Gymraeg, Deddf Iaith Gymraeg, teledu Cymraeg, Senedd i Gymru, sicrhaodd y bobl hyn swyddi iddyn nhw eu hunain fel athrawon, dynion BBC, cyfieithwyr, swyddogion iaith, cyflwynwyr teledu, aelodau cynulliad, sgriptwyr, cynhyrchwyr, ac ati, a'r cyfan ar gost gweddill y wlad, a elwir bellach yn Lloegr.

[golygu] Perygl

Ymddengys fod Lloegr yn gwbl ddall i'r twyll. Fodd bynnag, mae perygl mwy sinistr erbyn hyn. Am ddegawdau, llwyddodd y "mudiad iaith" i gael consesiynau cynyddol hurt gan lywodraeth Loegr oherwydd anwybodaeth llywodraethau yn Llundain, a pharodrwydd Ysgrifenyddion Gwladol Cymru i chwarae'r gêm. Rhan bwysig o hyn oedd yr ymdrech i sefydlu peiriannau creu swyddi yng Nghymru, ac un o'r rheini oedd Cynulliad yng Nghaerdydd. Am bron i ddegawd, parhaodd yr anwybodaeth yn Llywodraeth Cymru hefyd gyda'r Blaid Lafur wrth y llyw, yn parhau i roi a rhoi a rhoi i'r iaith Gymraeg. Bellach mae Plaid Cymru, a fu am gyfnod hir yn rhan o'r twyll plant y chwyldro i greu swyddi i siaradwyr Cymraeg, yn rhan o'r llywodraeth, ac mae'r tŷ ar y tywod a elwir yn "Cymry Cymraeg Dosbarth Canol" mewn perygl o ddymchwel yn llwyr, wrth i Blaid Cymru fradychu ei phobl ei hun a gwrthod parhau â'r trên grêfi a weithiodd yn rhagorol cyhyd, ac a roddodd y Blaid lle mae hi heddiw[1]. Galwodd Cynog Dafis am ddychwelyd Cymru i ofalaeth uniongyrchol Thatcher a Major, dau a wnaeth gymaint dros drên grêfi plant y chwyldro, gyda sefydlu S4C, gwneud y Gymraeg yn orfodol mewn ysgolion, a chyflwyno Deddf Iaith 1993.

[golygu] Dyfodol yr iaith

Mae rhai wedi nodi'r perygl sydd i'r Gymraeg, gan herio'r Farn Gyffredin bod "yr iaith Gymraeg yn ffynnu". Mae'r bobl sydd wedi dadlau bod yr iaith ar fin marw wedi tynnu sylw at y ffaith nad oes neb yn siarad Cymraeg, ond mae Bwrdd yr Iaith wedi pwysleisio nad yw hyn yn fater arwyddocaol o ran dyfodol y Gymraeg. Rhoddwyd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros £50,000,000 o bunnoedd i fewn i gyfieithu'r gwyddoniadur rhydd, Celwyddoniadur. Cafodd 41 o dudalennau eu cyfieithu gyda llawer o Gymraeg da, sy'n meddwl fod yr iaith yn mynd i gael ei siarad yn eang yn y dyfodol agos.

[golygu] Cyfeiriadau

  1. "'Y Byd': Bradychu Ymrwymiad". BBC. http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_7250000/newsid_7257200/7257249.stm. Adalwyd 2008-03-01. 

Offer personol
View and edit namespaces data

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill