Cerddi

Oddi ar Celwyddoniadur
Neidio i: llywio, chwilio

Cafodd Cerddi eu dyfeisio fel fath o gosb ym 1910 gan Mr. Huw Jones, athro llenyddiaeth yn Aberystwyth. Syniad Mr. Jones oedd i greu gosb na fydd yn gadael marciau amlwg ar y croen, ond yn medru troi ymennydd y derbynnwr i jeli coch o fewn munudau o'u hastudio.

Dechreuodd Mr. Jones trwy fwrw ei deipiadur ar hap tan fod "cerdd" wedi ei "ysgrifennu". Yna, taflodd bocs o eiriau ar y llawr, a dewis un neu dau fel thema. Dewisodd dwsin neu mwy fel ystyr y "gerdd". Bydd Mr. Jones yna'n creu enwau dwl a di-ystyr, fel "R Williams Parry" neu "Meirion MacIntyre" i ddrysu'r derbynnwr yn bellach.

Y gosb[golygu]

Bydd Mr. Jones yn gofyn i ddisgyblion cofio'r "cerddi", y "themâu" a'u "ystyr", a gorfodi'r plant i ysgrifennu amdanynt yn ystod arholiad. Wrth gwrs, roedd astudio'r geiriau hap fel gwrando i gwasanaeth o blant yn canu Calon Lân (white noise yn y Saesneg), felly aeth nifer i'r ysbyty oherwydd gwaedlifau mewnol.

Canlyniadau[golygu]

Bu farw 300,000 o bobl Gymreig ym 1914-1918 wrth i cerddi dod yn boblogaidd yng Nghymru. Yna, wrth i gerddi cael eu cyfieithu i ieithoedd tramor, bu farw 18,300,000 pellach. Er mwyn cuddio'r ffaith fod cerddi wedi lladd mor cymaint a hyn o bobl, creuodd y llywodraethau stori am ryfel erchyll a beirdd (mwy o enwau dwl, ar hap, fel "Hedd Wyn" a "Wilfred Owen") i esbonio'r nifer o gerddi a chafodd eu creu.

Roedd cerddi ar fin cael eu gwahardd gan Confensiwn Genefa pan farwodd pawb ar ôl clywed esiampl, felly mae ysgolion ar draws y byd yn barhau i droi miliynau o ddisgyblion i fewn i jeli coch pob flwyddyn.