Caradog Prichard

Oddi ar Celwyddoniadur
Neidio i: llywio, chwilio

Sgwennwr a bardd o Pentra oedd Caradog Prichard. Dest iddo fo beidio bod yn sgwennwr a bardd, achos dest iddo fo beidio mynd i'r Cownti Sgŵl.

Dew, un garw oedd Caradog. Mi sgwennodd o nofal fawr y Gymraeg, Un Nos Ola Leuad, ac ynddi mi oedd o'n mynd drw Pentra, yn pasio Siop Meri Jones, Tŷ Moi, Tŷ Huw, Rheinws at Ben Llyn Du, lle doedd o ddim fod i fynd achos bod ei fam o'n dweud enw'r lle mewn modd anghygoel o ddramatig bob tro. Roedd Caradog yn crynu fel deilan bob tro.

Ymysg diddordebau 'rhen Garadog oedd crio. Crio a chrio a chrio a chrio. Crio fel tasa'r byd ar ben. Licio crio fel ma rhai pobol yn licio darllan llyfrau am sadomasochistiaeth a hunanladdiad. Ew, swn i'n licio gallu crio fel Caradog.