Cachgi
Oddi ar Celwyddoniadur
Math o anifail mynwes sy'n boblogaidd iawn yn Nheyrnas Unedig Prydain Fawr a rhan o Iwerddon yw'r cachgi. Mae'n hoff iawn o gael ei fwytho ac yn reit annwyl yn ei ffordd ei hun, ond yn gallu bod yn ddrewllyd. Gwelir y cachgi ar ei orau mewn gerddi pleser fel San Steffan. Mae'n hoff o bethau lliwgar a sgleiniog, fel aur neu Jac yr Undeb, er enghraifft.
Credir bod y cachgwn yn ddisgynyddion anuniongyrchol i'r deinosoriaid a adawyd ar ol yn Llyn Tegid ar ddiwedd Oes yr Ia, ond ceir amrywiaeth barn ar y pwnc.
Mae Elisabeth o'r Fflint ymhlith y bridwyr cachgwn enwocaf a welwyd ers oes William Morgan.