C.C.C
[golygu] Pencadlys
Lleolir Pencadlys yr C.C.C ar Heol yr Amgueddfa yng Nghaerdydd, mewn adeilad an-nodweddiadol o lwyd ond am un manylyn pensaerniol, sef casgliad mwya'r byd o gedors Celtaidd. Trefnir y rhain ar ffurf barf ar gerflun o ben ôl Gyrainj. Gwyneba'r casgliad i'r De-Ddwyrain o fewn gradd union tuag at safle'r Senedd, ac ar ddiwrnod o wynt pera symudiad yn yr aer i sain sy'n ymdebygu i gân a enillodd Cân i Gymru nad oes neb yn cofio bellach ond sy'n swnio chydig bach fel y gân na oddi ar ail albym U2 atseinio'r holl ffordd draw i'r Bae gan amharu ar flew clustiau gwleidyddion. Mae hyn wedi arwain at gryn densiwn rhwng yr C.C.C a'r Senedd yn y blynyddoedd diwethaf, er cyn lleied roedd unrhyw un arall oni bai am y Mul Gorllewinol yn becso ffyc.
[golygu] Ariannu
Ariennir yr C.C.C gan lawer iawn o fanciau a chwmniau mawr. Dynodir eu nawdd ar arwyddion tu allan i'w sefydliadau e.e. "Banc Halia Bwrs Sion Corn (HSBC) ccc, Cangen Llanbedrog"
[golygu] Grantiau
Dyma rai o'r pobol sydd wedi derbyn cymorth gan yr C.C.C :
- Grant Naylor - "Pisgell - Myfi a Gnychodd Asgell" - £3.67 (1987)
- Grant Aboudaje - "Rhechen Gron (Goronwy RIP)" - £10.76 (1993)
- Grant Mangrove Avocet ap - "Cŵd Post, Cala Postmon" £0.05 (2000 - Grant y Mileniwm Byg)
- Grant Imiitiiniibawbobobolybyd - "Wele Wawriodd Freuddwyd Wlyb (byw)" £1,000,000 (2005)