Bryn Vaughan
Canwr, terfysgwr ac athro yw Bryn Vaughan.
Cynnwys |
[golygu] Gyrfa fel canwr a bardd
Daeth i'r amlwg yn wreiddiol fel canwr roc-a-rôl yn ystod yr 1860au, cyfnod llewyrchus i gerddoriaeth yng Nghymru. Fe'i ystyrid yn fardd o fri y cyfnod hwn, (yn benna' oherwydd nad oedd yna feirdd eraill yn bodoli, ac 'roedd pob person a allai 'sgwennu yn efengylydd rhonc) a bu'n cydweithio gyda neb llai nag Ann Griffiths, un o brif emynwyr Cristnogol y cyfnod. Roedd dylanwad Bryn arni yn chwyldroadol - bu iddi droi ei chefn ar ei ffydd ac ymroi'n llwyr i grefydd newydd, Brynvaughaniaeth, neu Kenvaughaniaeth. Yn ei hemyn mwyaf nodedig, ysgrifennai:
Beth sydd imi mwy a wnelwyf Ag eilunod gwael y llawr? Tystio'r wyf nad yw eu cwmni I'w gystadlu a'm Brynvaughan [sic] mawr: O! am aros Yn ei gariad ddyddiau f'oes.
Wedi marwolaeth Ann Griffiths, lleihaodd dylanwad ac aelodaeth Brynvaughaniaeth, tan y flwyddyn 2004, pan y rhyddhawyd ei gryno-ddisg addysgiadol i blant, Abacus, a oedd yn cynnwys negeseuon is-ymwybodol yn annog y gwrandawyr ymddiried yn nysgiaethau'r ffydd.
[golygu] Bryn yr Athro
Wedi i senedd Lloegr basio deddf Sa'n well i ni addysgu'r ffycars ne' fydd ganddo ni gannoedd o Stalins bach isio'n ffwcio ni fyny (1968)[1], ac wedi sefydlu S4C yn ddiweddarach, ymrodd Vaughan ei holl egni creadigol i greu cryno-ddisgiau addysgiadol i'w defnyddio fel rhan o'r Cwriciwlwm [2] Cenedlaethol. Ymysg ei waith addysgiadol mae'r canlynol:
- Dyddiau Di-Gymar (oherwydd nes i roi STDs i 'nghariadon oll)
- Abacus (dysgu cyfri - un, dau, tri)
- Dawnsio ar y Dibyn (peth digon peryg i'w neud, deud y gwir)
Codwyd tipyn o stŵr pan ryddhawyd Cam yn 2005, gan nad oedd Hogia'r Werin Gachu yn fodlon derbyn bod eu harwr yn gweld hoywon fel pobl yn hytrach nag anifeiliaid.
[golygu] Terfysgwr
Am gyfnod, bu Vaughan yn derfysgwr, ac yn mynychu gwersyll al-Qumon Mid (East) Fjhald yn yr 1990au cynnar. Mae tystiolaeth fideo o'r cyfnod yn awgrymu mai delio â chemegolion oedd Vaughan yn bennaf, gan gyfeirio at ei ddefnydd aml o fenyg trwchus. Does dim llawer o sôn Vaughan wedi bod ers 2005, ac mae rhai arbenigwyr yn grediniol ei fod yn ymgyrchu'n derfysgol unwaith eto, gan guddio mewn ogofâu o dan yr enw Usama Bryn Ladin.
[golygu] Reffyrynsus
- ↑ Deddf dda i'r 'ogia, latsh
- ↑ Does na'm ots os ti'n sillafu hwn yn anghywir, Lladin di o, dydi o'm yn bodoli rhagor, be bynnag.